|
| Tudalen 1 o 9
| | > |
|
Brawd Newydd (casÉt) (#1.50)
Stori annwyl am Lowri yn dysgu dygymod â newid mewn bywyd teuluol yn sgil dyfodiad baban newydd, mewn cyfres o gasetiau o straeon hwyliog ar gyfer disgyblion Cymraeg Ail Iaith CA 3, sy'n gyfrwng i loywi iaith a symbylu trafodaeth ar bynciau cyfoes. Adroddir gan Janet Aethwy.
Mair Wynn Hughes, £2.55
|
|
Bro A Bywyd: Beirdd y Mynydd Bach
Casgliad hynod ddiddorol o dros 250 o ffotograffau du-a-gwyn ynghyd â nodiadau perthnasol yn portreadu bywyd a gwaith pedwar bardd a llenor o ardal erwin y Mynydd Bach, Ceredigion, sef T. Hughes Jones (1895-1966), B.T. Hopkins (1897-1981), E. Prosser Rhys (1901-45) a J.M. Edwards (1903-78).
£3.00
|
|
Bro A Bywyd:19. D. Tecwyn Lloyd 1914-1992
Portread o'r ysgrifwr, golygydd, y bywgraffydd a'r beirniad llenyddol D. Tecwyn Lloyd, a ysgrifennai hefyd fel E.H. Francis Thomas. Lluniau du-a-gwyn gyda chapsiynau a phytiau o waith.
£3.00
|
|
Bwgan (caset) (#1.50)
Mae Eira Jones, athrawes Saesneg yn Ffrainc am flwyddyn, yn derbyn gwahoddiad gan Pierre a Claude, dau o'i disgyblion, i ymweld â thŷ bwgan! Adroddir gan Geraint Wyn Davies.
Bob Eynon, £2.55
|
|
Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970, y - Gydag Atodiad I'r Bywgraffia
Bywgraffiadur yn rhestru'r Cymry blaenllaw a fu farw rhwng 1951 a 1970 ynghyd ag atodiad i'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 a'r Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950.
£12.50
|
|
Caneuon Ffydd - Hen Nodiant (rhwymiad Cain)
Argraffiad Hen-nodiant mewn rhwymiad cain o lyfr emynau arloesol a luniwyd dan nawdd pwyllgor cydenwadol at ddefnydd cynulleidfaoedd yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, Eglwysi Presbyteraidd a Methodistaidd Cymru a'r Eglwys yng Nghymru, yn cynnwys bron i 900 o emynau a salmau Cymraeg, dros 60 emyn Saesneg, a thros 650 o emyn-donau. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Mawrth 2001.
£25.00
|
|
Cantorion O Fri: Ar Lwyfan y Byd
Ail gyfrol yn olrhain gyda chynhesrwydd ac edmygedd ymroddiad a datblygiad chwech o gantorion Cymreig a lwyddodd ar y llwyfan byd- eang, sef Stuart Burrows, Rebecca Evans, Katherine Jenkins, Gwyn Hughes Jones, Rhys Meirion a Bryn Terfel. 32 llun lliw a 9 llun du-a-gwyn.
Alun Guy, £4.00
|
|
Catrin Jones Yn Unig
Nofel gyfoes ar ffurf dyddiadur a ddyfarnwyd yn uchel yng nghystadleuaeth Nofel 2000 Gomer, yn dilyn helyntion blwyddyn ym mywyd Catrin Jones sydd â'i byd yn troi'n bendramwnwgl wedi iddi etifeddu cyfoeth ei thad, gan beri anghytuno a chamddealltwriaeth ymhlith teulu, cariad a chyfeillion. Cyhoeddwyd gyntaf yn Hydref 2000.
Meleri Wyn James, £3.00
|
|
Cerddi Fan Hyn: Cerddi'r Byd
Casgliad cyfoethog o gant o gerddi amrywiol ar fesurau caeth a rhydd gan 49 o feirdd yn darlunio mannau amrywiol a phersonoliaethau drwy'r byd sydd wedi ysbrydoli'r beirdd.
£3.00
|
|
Clive! Cawr Cicio Cwmtwrch
Hunangofiant y bersonoliaeth fawr o gymuned glòs Cwmtwrch a gyfrannodd yn helaeth i ddatblygiad y gêm rygbi yng Nghymru a thu hwnt rhwng 1950au-90au, fel chwaraewr, capten, hyfforddwr a dewiswr, ac sy'n parhau i ddiddanu trwy gyfrwng ei sylwebu ffraeth ar y radio. 93 ffotograff du-a-gwyn a 4 cartŵn. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1999.
Clive Rowlands, John Evans, £2.00
|
|
|
| Tudalen 1 o 9
| | > |
|
|
| Cyfres Canfod Ac Adnabod: Ieir Bach Yr Haf |
|
 |
| George E. Hyde |
| £1.00 |
| Mewn print ac mewn stoc |
 |
|
| Het y Bwgan Brain |
|
 |
| Ken Brown |
| £5.75 |
| Mewn print ac mewn stoc |
 |
|
| Llwybrau Breuddwydion - Chwarter Canrif O Gân |
|
 |
| Iona Ac Andy |
| £4.00 |
| Mewn print ac mewn stoc |
 |
|
|