Argoed.com : y siop gymraeg ar y we Llytrau - meddalwedd - fidio - cerddoriaeth
Chwilio Argoed
eich basged
hafan Cymraeg help siopa diogel
  Y diweddaraf oddi wrth Argoed

Tudalen 1 o 8
>

Academi Iwan: Addewid Mawr
Rodi Jones yw seren tîm pêl-droed ei ysgol gynradd a bydd yn sicr o fod yn y tîm cyntaf ar ôl iddo symud i'r ysgol uwchradd. Ond mae popeth ar fin newid. Mae sgowt yn sylwi ar Rodi, yn gweld addewid mawr ynddo, ac yn rhoi gwahoddiad iddo gael treial yn Academi Iwan, prif academi bêl-droed Prydain. Yn fuan iawn, does dim byd arall ar ei feddwl. Addasiad o Stadium School: Hot Prospect
Cindy Jefferies, £4.99
Berw'r Byd 2: Ffeithiol
Yn dilyn llwyddiant Berw'r Byd a gyhoeddwyd yn 2007, dyma ail lyfr ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7-9. Mae'r deunydd yn datblygu sgiliau llafar, darllen, ysgrifennu a meddwl. Mae'r 3 uned, ar y testunau Llaw, Lliw a Llefydd, wedi'u paratoi ar lefelau gwahanol. Mae'r ddau awdur yn athrawon profiadol.
Meinir Ebbsworth, Tudur Dylan Jones, £6.95
Berw'r Byd 2: Ffuglen
Mae'r gyfrol hon yn cyd-fynd â Berw'r Byd 2: Ffeithiol, ac yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3. Cyfeiria at amrywiaeth o destunau ffuglen gan roi ymarferion i ddatblygu sgiliau llafar, darllen, ysgrifennu a meddwl o dan y themâu Llaw, Lliw a Llefydd. Cyfrol liwgar wedi'i dylunio gan gwmni GraffEG ac wedi'i pharatoi gan ddau athro profiadol.
Meinir Ebbsworth, Tudur Dylan Jones, £6.95
Bwthyn Cymreig, y - Arferion Adeiladu Tlodion y Gymru Wledig,
Astudiaeth o gartrefi tlodion cefn gwlad Cymru yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan dalu sylw arbennig i'r defnyddiau, y technegau a'r prosesau a ddefnyddid i'w codi, a hynny wedi'i seilio ar dystiolaeth yr adeiladau eu hunain ac ar ddogfennau a disgrifiadau cyfoes. Dros 200 o luniau lliw a du a gwyn. Mae fersiwn Saesneg hefyd ar gael, The Welsh Cottage.
Eurwyn Wiliam, £29.95
Byw Busnes
Pwrpas y gyfrol hon yw ceisio croniclo profiad yr awdur ym myd busnes a'i osod rhwng dau glawr. Hoffai Gari Wyn gredu fod ganddo wersi a straeon ar gyfer pawb, gwersi sy'n tarddu o fethiant ac o lwyddiant.
Gari Wyn, £7.50
Cant y Cant - I Ddysgwyr
Cyfrol o ddeunydd ffeithiol ar gyfer dysgwyr gan diwtor Cymraeg profiadol.
R. Alun Charles, £7.99
Cerddi Lloerig: y Ddraig Groch
Mae hanes Cymru yn llawn baledi, mae arwyr Cymru yn haeddu cân. Ond rydyn ninnau hefyd, wrth siarad yr iaith a mwynhau ei thrysorau hi, yn haeddu pennill neu ddau. Lluniau du-a-gwyn difyr a doniol ar bob tudalen gan yr arlunydd poblogaidd, Siôn Morris.
£4.50
Cornel Canu
Dyma addasiad newydd o'r cyfrolau poblogaidd Cornel Canu a Cornel Canu 2. Trysorfa gyfoethog sy'n llawn campweithiau o dros ugain o ganeuon gwahanol yw Cornel Canu. Bydd y lluniau lliwgar yn sicr yn denu llygad a sbarduno dychymyg plant yn y Cyfnod Sylfaen. Mae llu o bynciau amrywiol a'r caneuon, sydd â geiriau yn ogystal â threfniant cerddorol syml.
Olwen Williams, £5.99
Crefft y Gynghanedd
Dyma'r gyfrol gyntaf erioed i drafod crefft y gynghanedd yn unig. Mae'n ymdrin â nifer o agweddau ar y grefft o gynganeddu a llunio barddoniaeth gynganeddol. Dilyniant i'r gyfrol Anghenion y Gynghanedd yw hon, gyda'r gwahaniaeth sylfaenol mai crefft y gynghanedd ac nid rheolau cynghanedd a drafodir ynddi.
Alan Llwyd, £10.95
Cwpan y Byd 2010
Llyfr deniadol llawn lliw am dimau a sêr Cwpan y Byd 2010. Llawlyfr hanfodol i ddilyn y gystadleuaeth dros yr haf, yn cynnwys poster/siart o'r holl gêmau. Rhagair gan John Hartson.
Gwyn Jenkins, £4.95

Tudalen 1 o 8
>
 
Cyfres Bechgyn Am Byth!: Dal Y Don: Clic am fanylion
£3.99
Mewn print ac mewn stoc
Ychwanegu at y Fasged
Owain A Megan/owain And Megan - Teachers' Resource Pack: Clic am fanylion
£9.99
Nid yw ar gael ar hyn o bryd: ailargraffu
Treigladur, Y/mutations Map, The (#2.99): Clic am fanylion
£2.54
Mewn print ac mewn stoc
Ychwanegu at y Fasged
     

hafan | diogelwch | help | polisi preifatrwydd | cysylltwch â ni | basged siopa
amodau a thelerau |dewis iaith
© Cadi Llwyd 2010

Eich allwedd i lyfrau Cymru - www.gwales.com - Your key to the books of Wales

Flintshire
Web Design Flintshire
Fireplaces