Argoed.com : y siop gymraeg ar y we Llytrau - meddalwedd - fidio - cerddoriaeth
Chwilio Argoed
eich basged
hafan Cymraeg help siopa diogel

help


 

Argoed yw'r siop ar-lein Gymraeg fwyaf ar y we gyda thros 10,000 o lyfrau, cerddoriaeth, fideos ac eitemau eraill sydd yn ymwneud â'r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Trefnir y safle mewn dau brif gategori, sef Cymraeg a Saesneg. Mae'r categori Cymraeg yn cynnwys eitemau yn y Gymraeg yn unig tra bod y categori Saesneg yn cynnwys teitlau sydd yn ymwneud â Chymru a'r Gymraeg trwy gyfrwng y Saesneg.

Rhennir y prif gategorïau yn is-gategorïau megis llyfrau, cerddoriaeth a fideos. Medrwch chwilio am eitem drwy naill ai pori trwy'r llyfrgelloedd helaeth hynny neu drwy chwilio am deitl neu allweddeiriau arbennig.

Basged Siopa
Unwaith fod gennych eitem yr hoffech ei phrynu medrwch ei hychwanegu at y fasged siopa. Ceidw'r fasged siopa eich pryniadau hyd nes eich bod yn barod i dalu amdanynt gyda cherdyn credyd wrth y til. Medrwch archwilio cynnwys eich basged siopa unrhyw bryd heb i hynny eich rhwystro rhag pori trwy'r siop.


Wrth y Til
Unwaith eich bod wedi cwblhau eich pryniadau, medrwch fynd i'r til. Yma, gwnewch deipio'ch manylion personol: enw, cyfeiriad, e-bost a rhif ffôn. Ni fydd Argoed yn trosglwyddo'ch manylion personol i neb arall.

Ar ôl teipio'ch manylion personol bydd rhaid i chi glicio'r botwm danfonwch archeb. Cewch eich trosglwyddo i'n man diogel er mwyn i chi deipio manylion eich cerdyn credyd. Caiff eich cerdyn credyd ei archwilio am ddilysrwydd wedyn wrth gwblhau'r archeb.

Arian Tramor
Os ydych yn archebu o'r tu allan i'r parth Sterling caiff eich cerdyn credyd ei ddebydu gan swm sy'n seiliedig ar y gyfradd gyfnewid bresennol. Cyfrifa eich cwmni cardiau credyd y swm hwn yn awtomatig.

Cludiant
Ymdrecha Cadi Llwyd anfon eich archeb o fewn 10 diwrnod y tu mewn i'r DG ac o fewn 21 diwrnod ar gyfer archebion tramor.

Telerau ac Amodau
Darllenwch ein telerau ac amodau.

     

hafan | diogelwch | help | polisi preifatrwydd | cysylltwch â ni | basged siopa
amodau a thelerau |dewis iaith
© Cadi Llwyd 2012

Wedding Singer
Flintshire
Web Design Flintshire
ink cartridges
t0715