Er na fydd
yn amlwg yn syth unwaith rydych yn dod i'r adran yn Argoed
lle bydd rhaid i chi nodi manylion eich cerdyn credyd/debyd
fe fyddwch, mewn gwirionedd, ar weinydd cwmni arall - sef
SECPay. SECPay sy'n ymdrin â'n holl werthiannau
cardiau credyd a debyd. Ni chedwir manylion cardiau credyd
a debyd gan Argoed.
Mae SECPay yn gwmni Gwasanaeth Rhyngwe Prosesu
Gwerthiannau Cardiau Credyd a Debyd annibynnol. Maen nhw'n
gweithredu'n ôl safonau'r diwydiant gan ddefnyddio
SSL (Haen Soced Diogel), dull amgryptio sy'n cael ei
ddefnyddio a'i gymeradwyo gan y system fancio. Ar gyfrifiadur
y prynwr bydd amgryptio'n digwydd ac ar weinydd SECPay
yn unig gall dadgryptio ddigwydd.
Mae amgryptio SSL yn rhwym wrth gyfyngiadau
diogelwch safonol sy'n cyfyngu gallu porwyr i gyfathrebu
ar draws y rhyngwe i'r wefan y deilliodd y gwerthiant.
Gall dadgryptio ond digwydd ar weinydd diogel SECPay ar ôl
dadlwytho archeb o'r we. Medrwch weld os ydy'ch
porwr yn gweithredu SSL trwy edrych ar symbol y clo clap.
Ymddengys y symbol hwn yn y gornel isaf ar y chwith pan fo
ar safle ddiogel yn Explorer. Yn Netscape mae symbol clo clap
mewn golwg bob amser yn y gornel isaf ar y chwith. Mae Netscape
yn dangos symbol clo clap ar agor fel arfer sy'n troi'n
glo clap cloëdig ar safleoedd diogel.
Mae SECPay yn defnyddio gwasanaethau megis
Paybox, cadarnhad cyfeiriad AVS a CVV2 (yn ddibynnol ar y
derbyniwr) a UK SMART i wirio'n erbyn defnydd twyllodrus
o gardiau credyd.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â SECPay
aed i'w gwefan:
http://www.secpay.com
|