Argoed.com : y siop gymraeg ar y we Llytrau - meddalwedd - fidio - cerddoriaeth
Chwilio Argoed
eich basged
hafan Cymraeg help siopa diogel

help

 Gwybodaeth a  Thelerau

 
Mae'r Amodau a'r Telerau a ganlyn yn cyfeirio at werthu nwyddau gan Argoed oni chânt eu newid neu eu heithrio yn benodol gan Argoed ar bapur. Wrth archebu gydag Argoed tybir eich bod wedi derbyn yr Amodau a'r Telerau hyn.

Ynghylch Argoed

Rydym yn aelodau o'r Cod Arferion Which? Webtrader.

Boddhad y cwsmer yw'n prif flaenoriaeth - os ydych yn teimlo'r hoffech gynnig rhyw awgrymiad neu sylw ynghylch Argoed medrwch anfon e-bost atom i: argoed@argoed.com

Manylion Cysylltu

Post: Argoed, 67 Stryt y Neuadd, Rhosllannerchrugog,
Wrecsam, Cymru LL14 2LG
Ffôn: 01978 842002 codir tâl ar Raddfa Genedlaethol ar gyfer pob galwad
E-bost: argoed@argoed.com

Prynu

Rydych yn rhydd i bori'r safle gan roi unrhyw eitem yr hoffech ei phrynu yn y Fasged Siopa. Unwaith rydych wedi gorffen siopa cliciwch ar 'ewch i'r til'. Wrth y til gofynnir i chi am fanylion ynghylch talu. Derbynnia Argoed Visa, Mastercard, Switch, Delta a Solo. Am ragor o fanylion ynghylch diogelwch gweler yr adran Diogelwch.

Medrwn yn ogystal dderbyn sieciau mewn Sterling os anfonir nhw drwy'r post i'r cyfeiriad uchod. Byddwch yn ofalus i nodi'r union eitemau sydd eu hangen arnoch a chofiwch gynnwys cost post a phacio (gweler y Tabl Post a Phacio isod). Nodwch yn glir y cyfeiriad danfon os gwelwch yn dda. Dylai sieciau gael eu cadarnhau gan gerdyn gwarantu siec a dyddiad dod i ben. Dylai sieciau fod yn daladwy i Argoed.

Gwneir pob gwerthiant mewn Sterling ar hyn o bryd.


Cynhwysir TAW ym mhob rhestr prisiau os yn gymwys. Nodwch, medra prisiau gael eu newid heb hysbysu o flaen llaw. Codir tâl ar bob eitem fel yr hysbyswyd ar y dyddiad archebu.

Nodir argaeledd eitemau wrth i chi bori. Bydd eitemau nad ydynt ar gael yn cael eu nodi'n glir. Nodwch, mae'n rhaid archebu rhai eitemau oddi wrth gyflenwyr allanol, cewch eich hysbysu o'r sefyllfa ar-lein fel rydych yn siopa.

Erys nwyddau'n eiddo i Argoed hyd y derbynnir y taliad yn llawn.

Post a Phacio
Codir tâl fel a ganlyn:

DU ac Iwerddon £2-16 + 59c yr eitem
Ewrop £2-95 + £1-00 yr eitem
Gogledd America £2-95 + £2-00 yr eitem
Gweddill y Byd £2-95 + £3-00 yr eitem

Amser Danfon

Gwna Argoed bob ymdrech i gwblhau archebion o fewn cyfnod rhesymol. Dylai cwsmeriaid adael hyd at 10 diwrnod gwaith ar gyfer derbyn archebion o fewn yr Ynysoedd Prydeinig a 21 diwrnod gwaith ym mhob man arall.

Nodwch ni fydd Argoed yn gyfrifol am unrhyw fethiant nac oedi mewn cwblhau archeb sy'n deillio o amgylchiadau tu hwnt i'w reolaeth resymol.

Gwarant

Mae gan bob eitem warant amnewidiad ynteu ad-daliad am 30 diwrnod. Ni chaiff eich Hawliau Statudol eu heffeithio.

Cwynion

Gwnawn bob ymdrech i ddatrys cwynion cyn gynted ag y bo modd. Os digwydd i chi gael cwyn cysylltwch ag Argoed trwy un o'r dulliau a restrwyd uchod o dan Manylion Cysylltu os gwelwch yn dda. Byddwch yn barod gyda'ch cyfeirnod archeb a'r dyddiad prynu - cadwer nwyddau ar gyfer archwiliad.

Trethi Lleol

Telir pob treth ar gyfer aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Codir unrhyw gostau tollau neu drethi mewnforio yn y wlad y derbynnir y nwyddau. Cyfrifoldeb y cwsmer fydd pob cost ychwanegol o'r fath. Nid oes gan Argoed unrhyw reolaeth dros y gost o drethi lleol sy'n medru amrywio'n sylweddol o wlad i wlad. Awgrymir y dylai cwsmeriaid gysylltu â'u tollty lleol am wybodaeth ychwanegol os oes ganddynt bryderon.

Dileu Archeb

Medrwch ddileu'ch archeb unrhyw bryd rhwng y dyddiad archebu hyd at 7 diwrnod gwaith o'r diwrnod ar ôl i chi dderbyn y nwyddau. Caiff eich arian ei ad-dalu o fewn 30 diwrnod o ddileu'r archeb. Cewch eich gofyn i anfon y nwyddau'n ôl atom ar eich traul eich hun, er y caiff y costau hyn eu had-dalu. Os codir y nwyddau ar ein traul caiff y costau hyn eu tynnu oddi ar unrhyw ad-daliad sy'n ddyledus.

Nwyddau Diffygiol

Os digwydd bod eitemau'n ddiffygiol dylem gael ein hysbysu o'r ffaith o fewn 7 diwrnod gwaith o dderbyn yr eitem. Caiff amnewidiad ei anfon, neu gynnig o ad-daliad p'un bynnag sy'n well gan y cwsmer. Ad-delir holl gostau post a phacio gan Argoed

Sefyllfa Gyfreithiol

Gwneir ein holl fusnes yn unol â'r gyfundrefn gyfreithiol sydd ar waith yng Nghymru.

     

hafan | diogelwch | help | polisi preifatrwydd | cysylltwch â ni | basged siopa
amodau a thelerau |dewis iaith
© Cadi Llwyd 2008

Eich allwedd i lyfrau Cymru - www.gwales.com - Your key to the books of Wales

Flintshire
Printer Cartridge
Silver Jewellery
SiteOne Web Site Design